|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
|
Meeting Venue: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Meeting date: |
Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2013 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Meeting time: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
|
||||
|
This meeting can be viewed on Senedd TV at: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_400000_12_03_2013&t=0&l=cy
|
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Concise Minutes: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Assembly Members: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Witnesses: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Anthony Barrett, Wales Audit Office Partner, Wales Audit Office Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp - Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Committee Staff: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2. Ystyried rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru
2.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, gyflwyno rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r Archwilydd Cyffredinol am y rhaglen waith a bu'n trafod y blaenoriaethau ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal gwaith gwerth am arian.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2013.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5. Ystyried rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru ac amlinellodd nifer o feysydd yr oedd am i'r Archwilydd Cyffredinol eu hystyried fel rhan o'i gynllun gwaith.
6. Ystyried Cylch Gorchwyl yr ymchwiliad sy'n ymwneud â Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg
6.1 Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg a thrafod pa dystion yr hoffai gasglu tystiolaeth ganddynt.
7. Ystyried rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2013
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei raglen waith ar gyfer gweddill tymor y gwanwyn/yr haf 2013.
8. Adolygu'r cymorth a ddarperir i bwyllgorau.
8.1 Gofynnodd y Pwyllor i gael trafod yr eitem hon heb i staff y Cynulliad na swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru fod yn bresennol.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.